Ein taith i Malta

I nodi ein hugeinfed flwyddyn aethon ni â'r côr i Malta. Yr uchafbwynt i lawer oedd canu trefniant Richard Vaughan o'r emyn-dôn Llwynbedw yn y Basilica ym Mosta.
“Roedd yr atsain o fewn cromen yr adeilad yn parhau am ryw bump eiliad,” meddai Jane, “ac er bod hynny'n creu awyrgylch arbennig i'r sawl oedd yn gwrando, roedd yn creu amodau heriol iawn ar gyfer canu.”
Ac fel bob amser, daeth y Ddraig Goch gyda ni.